22 Gorff 2024

GOC yn dileu optometrydd o Fryste oddi ar y gofrestr

Mae'r GOC wedi penderfynu dileu Matthew Bickerstaffe, optometrydd wedi'i leoli ym Mryste, o'i gofrestr.

 

Mae’r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC), rheolydd optometryddion ac optegwyr dosbarthu’r DU, wedi penderfynu dileu Matthew Bickerstaffe, optometrydd sydd wedi’i leoli ym Mryste, o’i gofrestr.

Canfu un o Bwyllgorau Addasrwydd i Ymarfer y GOC fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn. Mae hyn mewn perthynas ag anfon nifer o negeseuon amhriodol a rhywiol ar-lein.

Mae gan Mr Bickerstaffe tan 12 Awst 2024 i apelio yn erbyn ei ddileu, ac yn ystod y cyfnod hwnnw caiff ei wahardd o'r gofrestr o dan orchymyn atal dros dro ar unwaith.

 

Pynciau cysylltiedig